
Captain Sir Norman Lloyd –Edwards, KCVO, GCStJ, RD, JP, RNR
Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cwrt Insole
Fe'i ganed ym 1933, daeth yn gyfreithiwr a bu'n ymarfer yn Nociau Caerdydd mewn practis cyffredinol oedd yn cwmpasu gwaith masnachol a phreifat mewn eiddo ymysg pethau eraill, cyn dod yn uwch bartner ac yn arwain gyda chyfuniadau â chwmnïau eraill.
Bu'n Gynghorydd Dinas am 24 mlynedd ac yn Arglwydd Faer Caerdydd 1985/86 oedd yn cynnwys llywyddu mewn cyfarfodydd (digon afreolus yn aml) lle roedd angen rheolaeth gadarn ond pwyllog. Bu'n Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Addysg a Chadeirydd Pwyllgor Ieuenctid y Ddinas yn ogystal â Llywodraethwr llawer o ysgolion. Bu'n Gadeirydd Cymru Gwobr Dug Caeredin am 16 mlynedd cyn dod yn Llywydd ac mae'n parhau yn Llywydd hyd heddiw. Mae ganddo wybodaeth ddofn o anghenion pobl ifanc a'u harweinyddiaeth.
Ym 1989, penodwyd e’n Brior i Gymru o Urdd Sant Ioan, i bob pwrpas Cadeirydd ei Ymddiriedolwyr gyda chyfrifoldeb am weinyddu Canolfannau Ambiwlans Sant Ioan ledled Cymru ynghyd â hyfforddiant cadetiaid ac oedolion ifanc mewn Cymorth Cyntaf, trefnu Trosglwyddo Cleifion gyda'r GIG a chyfrifoldeb cyffredinol dros ei gyllid, gan gynnwys codi arian ar ei gyfer (ac ar gyfer Ysbyty Llygaid Jerwsalem) gyda throsiant o fwy na £1 miliwn bob blwyddyn.
Fel Llywydd/Cadeirydd/Noddwr nifer o elusennau, yn ogystal â'i gyfnod fel Arglwydd Raglaw De Morgannwg (1990-2006), mae ganddo gysylltiadau gyda Llywodraethau Cenedlaethol a Lleol a llawer o unigolion a allai gyfrannu fel rhoddwyr at Apêl Cwrt Insole.