Charlotte Hamblen

Cydlynydd Blaen y Tŷ

Tyfodd Charlotte yng Ngorllewin Cymru ac yna symudodd i Fryste i astudio drama, yn arbenigo mewn rheoli llwyfan, gan gynnwys mynd â chynhyrchiad i Ŵyl Fringe Caeredin.

Yn dilyn graddio mae hi wedi gweithio yn y diwydiant lletygarwch ac wedi cwblhau ei phrentisiaeth reoli. Mae Charlotte hefyd wedi mwynhau gwahanol rolau gwirfoddoli ar gyfer Girlguiding Cymru a'r Gwasanaeth Addysg Teithwyr.

Yn ystod ei hamser rhydd mae Charlotte yn mwynhau heicio a theithio, yr uchafbwyntiau oedd heicio ar y llwybr Inka a jyngl Periw ac yn fwyaf diweddar, gwyliau heicio i Wlad yr Iâ lle bu’n ogofa lafa a heicio rhewlif am y tro cyntaf. Mae hi'n credu mai'r ffordd orau i ddysgu am hanes a diwylliant yw ei brofi trwy ymweld â'r adeiladau a chael teimlad go iawn am sut oedd pethau yn y dyddiau a fu.

← Ein Tîm

Dychwelyd i’r top ↑

Eich manylion am fwy

Peidiwch colli dim byd – rhowch eich manylion  i dderbyn ein Cylchlythyr a chadw i fyny gyda'r holl newyddion diweddara, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy.

* ofynnol

Menu