
Dr Elaine Davey BA (Hons) PhD
Ymddiriedolwr
Cymhwysodd Elaine yn wreiddiol fel syrfëwr adeiladau, gan weithio i'r Percy Thomas Partnership. Yn ddiweddarach, bu'n arolygu gwaith adnewyddu adeiladau yn Mayfair, Llundain. Dilynwyd hyn gan hoe yn ei gyrfa i ddechrau teulu. Tra bod ei dau fab yn ifanc, parhaodd i gynnal ei diddordeb yn yr amgylchfyd adeiledig trwy astudio ar gyfer gradd anrhydedd yn hanes celf a phensaernïaeth.
Mae wedi bod yn swyddog i amryw o gymdeithasau etifeddiaeth, yn cynnwys cadeirio'r grŵp Victorian Society Wales er 2000, ac hefyd cadeirio NADFAS Gorllewin Mercia (sy'n cynnwys De Cymru) er 2012, ar ôl gwasanaethu mewn amryw o swyddi fel swyddog er 1996. Bu hefyd yn ymddiriedolwraig i'r Ruperra Castle Preservation Trust a'r Ruperra Conservation Trust ac mae'n aelod gweithredol o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru a Chymdeithas Ddinesig Caerdydd.
Mae'r gwaith hyn yn golygu, ar wahân i sgiliau rheoli, ymgyrchu a sylwebu ar geisiadau cynllunio, prisiadau a chynlluniau datblygu yng Nghaerdydd a rhannau o Gymru, neu weithiau ymwneud â phenderfyniadau dylunio, ac o ganlyniad, mae gan Elaine gysylltiadau cryf â RCAHMW a Cadw.
Mae Elaine yn gyson yn trefnu rhaglenni blynyddol o ddarlithiau, cynadleddau, penwythnosau astudio a theithiau dramor. Bu'n gysylltiedig â nifer o brosiectau etifeddiaeth, yn cynnwys rhestru derbynion archif gyfan ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Cymru a llywio sawl arddangosfa, yn ogystal â chofnodi a sefydlogi llyfrau llyfrgell Castell Pictwn a chadw cynnwys amgueddfa'r QDG.
Mae ymchwil Elaine wedi cryfhau ei hymrwymiad i helpu cynnal ein hetifeddiaeth a'n hamrywiaeth ddiwylliannol. Mae'n frwd ynglŷn â sicrhau bod pawb yn medru mwynhau ein hetifeddiaeth ddiwylliannol a gwarchod yr etifeddiaeth hon ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod, fel adnodd ac i annog cydlyniad cymdeithasol. Cred bod llefydd yn dod yn fyw pan maen nhw wedi’u poblogi â storïau, ac yn galluu trawsnewid bywydau. Yn ystod y cyfnod o orffen ei doethuriaeth gyda’r Ysgol Ddaearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd, bu'n addysgu yn yr Ysgol. Roedd traethawd Elaine yn ymwneud â gwaith y Percy Thomas Partnership yn adeiladu'r Gymru ddinesig gyfoes. Mae hyn wedi golygu ymchwil fanwl ar ddatblygiad hanes gwleidyddol a phensaernïol Cymru a thu hwnt.