Portrait of Mr John Prior-Morris MBE JP

Mr John Prior-Morris MBE JP

Ymddiriedolwr

Ganed John Prior-Morris yng Nghaerdydd ym 1939 a chafodd ei addysg yn Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf ac Ysgol Uwchradd Caerdydd. Bwriodd ei brentisiaeth gyda Masnachwyr Adeiladu a gwnaeth ei Wasanaeth Cenedlaethol yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Hyfforddodd i fod yn athro drama yng Ngholeg Addysg Caerdydd yng Nghyncoed (1964-66}

Ar ôl gyrfa fel actor, awdur, cyfarwyddwr a sylfaenydd Theatr mewn Addysg yng Nghymru a Lloegr, aeth ati i sefydlu rhwydwaith ledled Cymru o gwmniau Theatr mewn Addysg ym mhob sir. O 1980 ymlaen, gweithiodd John am 26 mlynedd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Llwyddodd i greu partneriaethau ariannol gydag awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn darparu celfyddydau perfformio proffesiynol i bentrefi a chymunedau lleol trwy ei gynllun ‘Night Out’ a gafodd ei efelychu gan lawer.  Yn dilyn ei ymddeoliad yn 2005 dyfarnwyd MBE  iddo am “wasanaethau i’r celfyddydau a theatr i bobl ifanc yng Nghymru”.

Bu’n Ynad Heddwch ar y fainc yng Nghaerdydd o 1982 i 2002, ac yn Gadeirydd yn y Llysoedd Ieuenctid yn bennaf; cadeiriodd Bwyllgor Cyswllt y Gwasanaeth Prawf am ddwy flynedd ac yn ddiweddarach  bu’n aelod o’r Pwyllgor Prawf.

Aelod-sefydlu Cyfeillion Cwrt Insole ym 1990, gan gadeirio ei is-bwyllgor digwyddiadau am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw. Cafodd ei ethol yn Gadeirydd/Ysgrifennydd yn 2004 ac arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn cau’r Cwrt yn ystod 2006-8.  Yn sgil ailagor y Tŷ, sefydlodd John brosiect ‘Eich Treftadaeth’  Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghwrt Insole (2009-10), gyda’i weledigaeth o stori Insole fel symbol o ddatblygiad Caerdydd; cadeiriodd y Grŵp Rheoli Prosiectau a ffurfiodd y Grŵp Ymchwil sy’n llywio blaenoriaethau Treftadaeth y prosiect presennol. Llywiodd y drafodaeth gyhoeddus arweiniodd at yr Astudiaeth Cadw a Rheoli, ac yn sgil hynny, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cwrt Insole.

Bu John yn aelod o’r Grŵp Cynghori ar Gadwraeth Llandaf o 2005 hyd at 2013.  Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Cymdeithas Llandaf, yn un o ymddiriedolwyr Theatr  Hijinx  ac yn un o Gyfarwyddwyr  Browning, Jones & Morris Cyf, sy’n Fasnachwyr Adeiladu yng Nghaerdydd er 1914.

← Yr Ymddiriedolaeth

Dychwelyd i’r top ↑

Eich manylion am fwy

Peidiwch colli dim byd – rhowch eich manylion  i dderbyn ein Cylchlythyr a chadw i fyny gyda'r holl newyddion diweddara, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy.

* ofynnol

Menu