Portrait of Mr Laurence Roblin BA CPFA

Mr Laurence Roblin BA CPFA

Trysorydd, Ymddiriedolaeth Cwrt Insole

Mae Laurence yn gyfrifydd cyllid cyhoeddus wedi ymddeol gyda gyrfa sy'n cwmpasu Llywodraeth Leol, y GIG, Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu'n cynnal rolau cyfrifyddu ac archwilio a gweithiodd gyda staff, rheolwyr a gwleidyddion i reoli a chyflawni nodau sefydliadol.

Mae wedi bod yn ymwneud yn helaeth â phrosiectau ariennir gan grantiau o berspectif llywodraeth leol ynglŷn â cheisiadau grant, cyfrifeg, monitro a chyflwyno prosiectau, ac hefyd o berspectif Llywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â gwirio canlyniadau a chyflawniadau a ariennir gan grantiau.

Mae'n byw yn Llandaf, Caerdydd, ers dros 30 mlynedd, yn aelod oes o Gyfeillion Cwrt Insole a daeth yn drysorydd anrhydeddus Ymddiriedolaeth Cwrt Insole yn 2012. Mae wedi bod â diddordeb ac ymrwymiad hir gyda Chwrt Insole ac mae'n arbennig o bryderus ynglŷn â'i chadwraeth fel safle treftadaeth yn ogystal â fel cymuned a chanolfan addysgol. Mae Laurence hefyd yn archwilydd Anrhydeddus o Gymdeithas Preswylwyr Insole ac yn aelod o Grŵp Gerddi Cwrt Insole.

Gwnaeth gyfranogiad elusennol fel trysorydd anrhydeddus yr elusennau Cludiant Gwasanaeth Brys Gwirfoddol a Changen Caerdydd o Gofal Arthritis.

Mae gan Laurence ddiddordeb helaeth mewn cadwraeth amgylchedd adeiledig a naturiol, ac mae'n aelod o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn treftadaeth ddiwydiannol y 19eg ganrif a chyflawniadau Oes Fictoria, gan gynnwys adeiladau ac arteffactau peirianneg a systemau trafnidiaeth a seilwaith. Mae’n aelod o Gymdeithas Rheilffordd Corris.

← Yr Ymddiriedolaeth

Dychwelyd i’r top ↑

Eich manylion am fwy

Peidiwch colli dim byd – rhowch eich manylion  i dderbyn ein Cylchlythyr a chadw i fyny gyda'r holl newyddion diweddara, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy.

* ofynnol

Menu