Portrait of Mr William Michael Clarke BSc CEng MICE MBEng

Mr William Michael Clarke BSc CEng MICE MBEng

Ymddiriedolwr

Mae Michael yn Beiriannydd Sifil Siartredig a chanddo swyddfa yn Llandaf ers 30 mlynedd. Yn bennaf, mae'n cydweithio fel ymgynghorydd peirianneg strwythurol gyda phenseiri a datblygwyr yn Ne Cymru. Dros y 30 mlynedd, mae wedi cyflogi nifer o staff (hyd at 15 ar un adeg) gan reoli busnes adeiladu teuluol. Ei ddiddordeb arbennig ydy adnewyddu adeiladau rhestredig ac eglwysig. Bu ei deulu yn gweithio yn Llandaf ers tua 170 mlynedd fel seiri maen ac adeiladwyr cyffredinol, ac roedd gan ei hen dad-cu a'i dad-cu berthynas waith glos gyda theulu'r Insole ym mlynyddoedd Fictoraidd-diweddar a o gwmpas dechrau’r 20fed ganrif. 

Mae Michael yn gyfarwyddwr ar gwmni eiddo masnachol yn Ne Cymru ac mae hefyd yn rheoli eiddo'r teulu.

Mae Michael yn gadeirydd Tennis Wales Ltd, y corff rheoleiddio cenedlaethol ar gyfer tenis yng Nghymru.  Mae hefyd wedi cynrychioli Cymru ar Gyngor y Gymdeithas Tenis Lawnt, ac mae'n aelod o gyngor tenis rhyngwladol y Pedair Gwlad. Bu'n gadeirydd a llywydd Clwb Tenis Lawnt Radur. Mae hefyd yn ymwneud ag amrywiol grŵpiau gwirfoddol a chymdeithasol yn Radur, lle mae'n byw gyda'i wraig. Mae eu pump plentyn a'u hwyrion yn byw yn lleol.

← Yr Ymddiriedolaeth

Dychwelyd i’r top ↑

Eich manylion am fwy

Peidiwch colli dim byd – rhowch eich manylion  i dderbyn ein Cylchlythyr a chadw i fyny gyda'r holl newyddion diweddara, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy.

* ofynnol

Menu