
Mrs Catherine O’Brien BA (Hons), ESOL
Ymddiriedolwr
Tra’n magu tri o blant, astudiodd Catherine ar gyfer gradd ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar ôl graddio, daeth yn ymchwilydd ac yn hanesydd teulu. Mae’r sgiliau a ddatblygodd wedi ei galluogi i weithio dros unigolion ac i addysgu dosbarthiadau. Gan gydweithio â gwirfoddolwyr, mae wedi llunio coeden achau’r teulu ‘Insole’. Cymerodd hyn dros 3 blynedd gan olygu treulio oriau lawer mewn swyddfeydd cofnodion ledled y wlad yn astudio cofnodion ar y rhyngrwyd a sawl diwrnod yn gwneud gwaith ymchwil yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew. Yn sgil yr ymchwil hwn, mae dau lyfryn wedi’u llunio mewn cydweithrediad â’r Athro Richard Ollerton (Sydney). Cafodd un llyfryn ei gyhoeddi yn un o rifynnau Morgannwg ac mae’r llall yn yr arfaeth. Bydd mwy yn cael eu cynhyrchu, i gyd yn ymwneud â hanes Teulu Insole Cwrt Insole, gwaith eu cyndeidiau a’u siwrnai i Gaerdydd.
Mae Catherine hefyd wedi bod yn rhan o amryw o brosiectau yn y gymuned. Er enghraifft, mae wedi sefydlu a rhedeg grŵp Mam a Phlentyn, sy’n parhau i ddatblygu, gan ymdopi â newidiadau yn y gyfraith ac mewn iechyd a diogelwch yn ogystal â disgwyliadau heriol y mamau ac mae’n dal i ffynnu! Yn 2012, ynghyd â’i dwy ferch, sefydlodd grŵp Cerddoriaeth a Symud i fabanod a mamau. Mae’n amlwg fod angen mawr am y grŵp a’i fod yn rhoi llawer o foddhad i’r rhai sy’n cymryd rhan ynddo.
Dros y blynyddoedd mae Catherine wedi dysgu Saesneg i geiswyr lloches; ac i fenywod o Siapan drwy gynnal dosbarthiadau gwnïo; ac wedi agor ei chartref i ymwelwyr o Siapan a Dwyrain Ewrob. Am dros 20 mlynedd bu wrthi’n trefnu a rheoli’r gwaith arlwyo bob blwyddyn ar gyfer gwersyll haf yn yr awyr agored i dros 60 o fechgyn yng Ngorllewin Cymru. Yn y blynyddoedd diweddar, mae wedi trefnu diwrnodau crefft agored ynghyd ag addysgu sgiliau crefft amrywiol i ddechreuwyr pur.