Byddwch yn rhan o Gwrt Insole, byddwch yn gefnogwr/wraig
Pan fydd Cwrt Insole yn ail-agor i'r cyhoedd eleni ac yn dechrau pennod newydd, bydd yn lle i bawb. Dyn ni’n meddwl y byddwch yn syrthio mewn cariad ag e cymaint â ni.
Dyn ni’n dod â bywyd yn ôl i drysor cudd maestrefol Caerdydd. Mae'r hen Iard Stablau’n dod yn fannau dysgu newydd, bydd stori’r Tŷ yn cael ei hailadrodd i ymwelwyr, a dyn ni’n gweithio ar Y Sied Botio fel y gallwch rannu darn o gacen gyda ffrindiau.
Allen ni ddim fod wedi gwneud hyn heb amrywiaeth eang o gyllidwyr, ond bydd Cwrt Insole yn parhau i fod angen eich cefnogaeth.
Byddwch yn barod i gael eich ysbrydoli gan hanes y stad, crwydrwch yn y gerddi, neu byddwch yn greadigol yn ein mannau agored cymunedol. Ac unwaith byddwch chi wedi syrthio mewn cariad â Chwrt Insole, byddwch yn rhan o'i bennod nesaf.
Gyda'ch help, fydd hi ddim yn hir cyn gallwn ni agor mwy o’r Tŷ ac adfer mwy o'r Ardd i fwy o bobl eu defnyddio a’u mwynhau.
Ymunwch â'n cefnogwyr presennol sy wedi bod yn allweddol i stori Cwrt Insole hyd yn hyn, ac helpwch ni i groesawu cannoedd o bobl i syrthio mewn cariad â phennod nesa stori’r trysor cudd maestrefol yma.
Ymunwch â Chefnogwyr Cwrt Insole nawr a byddwch yn
- Rhan o'r teulu Cwrt Insole. Byddwch yn cael ein cylchlythyr a bod y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau
- Cael gwahoddiad i ddigwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau codi arian, cyfarfod â phobl o'r ardal a'r gymuned
- Cael hawl i bleidleisio mewn dau Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ar gyfer Ymddiriedolaeth Cwrt Insole A Chyfeillion Cwrt Insole
Allwch chi wneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth? Os byddwch yn gwneud cyfraniad rheolaidd o £10 y mis neu fwy, gallech ymuno â'n Cefnogwyr Aur
- Pob un o'r buddiannau uchod, a chael
- Y cyfle i brynu tocynnau ar gyfer ein digwyddiadau arbennig ar gyfer Cefnogwyr Aur
- Diolch ar wefan Cwrt Insole fel Cefnogwr/wraig Aur a gwybod eich bod yn cyfrannu at gynaliadwyedd tymor hir hyb cymunedol ac at safle o bwys hanesyddol
Cefnogwch Gwrt Insole yn ei bennod nesa. Lawrlwythwch ffurflen syml oddi yma.
Os dych chi eisiau rhoddi cyfraniad, dyn ni yn y broses o osod yn ei le gyfleuster rhoddi cyfraniad ar-lein - gwyliwch y gofod yma. Yn y cyfamser, os dych chi’n dymuno rhoddi cyfraniad cysylltwch â ni.
Mae’r teulu Cwrt Insole yn cynnwys:
Ymddiriedolaeth Cwrt Insole ydy’r corff o Ymddiriedolwyr sefydlwyd i gyflwyno prosiect Adnewyddu Cwrt Insole ac i oruchwylio gweinyddiad Cwrt Insole o ddydd i ddydd. Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole yn rheoli pob tanysgrifiad ar gyfer cynllun y Cefnogwyr. Mae Cyfeillion Cwrt Insole â chyfansoddiad ar wahân a bydd £5 o’ch tanysgrifiad yn cael ei drosglwyddo i gefnogi gweithgareddau’r Cyfeillion a chodi arian i gefnogi Cwrt Insole.