Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a hygyrchedd yn werthoedd sylfaenol i Ymddiriedolaeth Cwrt Insole.
Rydym yn deall y gall rhwystrau sylweddol fodoli o ran cael mynediad at dreftadaeth a diwylliant ac rydym yn cymryd camau i sicrhau nad ydynt yn bodoli yma yng Nghwrt Insole. Byddwn yn adlewyrchu hyn yn ein gwaith cynllunio busnes, cyfathrebu, allgymorth ac ymgysylltu, a'n gweithgareddau.
Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole a'n his-gwmni, Insole Court Trading yn gyflogwyr cyfle cyfartal a byddwn yn ymdrechu i ddenu ymgeiswyr amrywiol ar bob lefel o'r sefydliad gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr.
Bydd pob ymgeisydd cymwys yn cael ystyriaeth waeth beth fo’i liw, crefydd, rhyw, mynegiant neu hunaniaeth o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad cenedlaethol, anabledd neu oedran.
Caiff ein gwaith ei lywio gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy'n darparu'r fframwaith deddfwriaethol i gyflawni ein nodau o hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac i ymgysylltu â'n hymwelwyr.