Yr Ymddiriedolaeth

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cwrt Insole i gyflawni'r Prosiect Adnewyddu mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, ac yna i gymryd perchnogaeth o Gwrt Insole drwy gynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol trwy brydles tymor hir. Fel perchennog, mae'r Ymddiriedolaeth yn uniongyrchol gyfrifol am Gwrt Insole, ei gynaliadwyedd a'i ddyfodol fel ased treftadaeth a chyfleuster cymunedol.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn cael ei rheoli gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr sy'n weithredol trwy'r pwyllgorau a enwid isod. Rôl y pwyllgorau yw bwydo argymhellion i'r Bwrdd. Bydd o leiaf dau ymddiriedolwr yn ogystal â gwirfoddolwyr gydag arbenigedd a phrofiad perthnasol yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgorau.

  • Llywodraethu. Cyfrifoldeb am faterion cyfreithiol gan gynnwys contractau, prydleisi a chytyndebolau, rheolaeth ac arweiniad yr ymddiriedolaeth.
  • Cyllid. Cyfrifoldeb am y Cynllun Busnes a chynaliadwyedd cyffredinol Cwrt Insole.
  • Adeiladau a Gerddi. Cyfrifoldeb am waith cyfalaf a materion sy'n effeithio'r datblygiad, cynnal a chadw ac uniondeb parhaus o'r adeiladau a'r tir.
  • Cyfleusterau. Cyfrifoldeb am oruchwylio a rheoli'r cyfleusterau a'r gweithgareddau o fewn y Cwrt gan feithrin perthynas gyda defnyddwyr Cwrt Insole.
  • Treftadaeth Cyfrifoldeb am ddatblygu dehongliad o drefdadaeth, ymchwil barhaus a diogelu gwerthfawrogiad Cwrt Insole fel ased treftadaeth.

Pan fo'r angen, mae'r Ymddiriodolaeth yn ymgunnyll grwpiau ymgymhorol gan gynnwys cyfathrebu, arlwyio a recrewtio. Bydd y grwpiau dan arweiniad o leiaf un ymddiredolwr yn ogystal â gwirfoddolwyr gyda'r arbenigedd a'r gwybodaeth perthnasol. Mae'r grwpaiu hyn yn adrodd yn ôl i'r bwrdd rheoli yn uniongyrchol neu drwy Cyfarwyddwr Cwrt Insole.

Dychwelyd i’r top ↑

Eich manylion am fwy

Peidiwch colli dim byd – rhowch eich manylion  i dderbyn ein Cylchlythyr a chadw i fyny gyda'r holl newyddion diweddara, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy.

* ofynnol

Menu