Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd & Cwcis

I beth mae’r Polisi Preifatrwydd hwn?

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn rheoli preifatrwydd y wefan hon, www.insolecourt.org a'i defnyddwyr sy'n dewis ei defnyddio, elwir o hyn ymlaen 'y wefan'.

Mae'r polisi yn gosod allan y gwahanol feysydd  sy’n ymwneud â phreifatrwydd defnyddiwr ac sy’n  amlinellu ymrwymiadau a gofynion y defnyddwyr, y wefan a pherchnogion gwefan. Yn ychwanegol, manylir yn y polisi hwn ar y ffordd mae’r wefan hon yn prosesu, storio ac yn diogelu data defnyddwyr a gwybodaeth.

Y Wefan

Mae'r wefan hon a'i pherchnogion yn sicrhau bod yr holl gamau angenrheidiol yn cael eu cymryd i ddiogelu preifatrwydd ei defnyddwyr drwy gydol eu profiad ymweld. Mae'r wefan hon yn cydymffurfio â holl gyfreithiau cenedlaethol y DU a gofynion ar gyfer preifatrwydd y defnyddiwr.

Defnydd o Cwcis

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella profiad defnyddwyr tra'n ymweld â'r wefan.

Ffeiliau testun bach ydy cwcis a arbedir ar yriant caled cyfrifiadur y defnyddiwr sy’n olrhain, arbed a storio gwybodaeth am ryngweithiadau a defnydd y defnyddiwr o'r wefan. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan, trwy ei serfiwr, ddarparu i’r defnyddwyr brofiad wedi'i deilwra o fewn y wefan hon.

Cynghorir defnyddwyr, os ydynt yn dymuno nacau’r  defnydd ac arbed cwcis o'r wefan hon i ddisg galed eu cyfrifiaduron, y dylen nhw gymryd camau angenrheidiol o fewn gosodiadau diogelwch eu gwe borwyr i rwystro pob cwci o'r wefan hon a'i gwerthwyr serfwyr allanol.

Mae'r wefan hon yn defnyddio meddalwedd olrhain i fonitro ei hymwelwyr i ddeall yn well sut maen nhw’n ei defnyddio. Darperir y feddalwedd hon gan Google Analytics sy'n defnyddio cwcis i olrhain defnydd ymwelwyr. Bydd y feddalwedd yn arbed cwci i yriant caled eich cyfrifiadur er mwyn olrhain a monitro eich ymgysylltiad a defnydd o'r wefan ond fydd e ddim yn storio, cadw na chasglu gwybodaeth bersonol. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Gwgl  yma am ragor o wybodaeth http://www.google.com/privacy.html.

Cysylltu & Chyfathrebu

Bydd defnyddwyr sy’n cysylltu â’r wefan hon a/neu ei pherchnogion yn gwneud hynny yn ôl eu disgresiwn eu hunain ac yn darparu unrhyw fanylion personol gofynnwyd amdanyn nhw ar eu risg eu hunain. Cedwir eich gwybodaeth bersonol yn breifat a’i storio'n ddiogel tan yr amser na fydd bellach ei angen neu does dim defnydd iddo, fel y nodir yn y Ddeddf Diogelu Data 1998. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau dull diogel a sicr i broses cyflwyno e-bost ond byddwch yn ymwybodol bod defnyddwyr sy’n defnyddio dull o'r math i brosesau e-bostio yn gwneud hynny ar eu risg eu hunain.

Mae'r wefan hon a'i pherchnogion yn defnyddio unrhyw wybodaeth gyflwynir i roi mwy o wybodaeth i chi am y cynnyrch/gwasanaethau gynigir ganddyn nhw, neu i'ch cynorthwyo i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau gallech fod wedi eu hanfon. Mae hyn yn cynnwys defnyddio eich manylion i’ch tanysgrifio i unrhyw raglen cylchlythyr e-bost mae’r  wefan yn ei gweithredu, ond dim ond os yw hyn wedi cael ei wneud yn glir i chi a bod eich caniatad penodol wedi ei ganiatau a'ch caniatâd penodol roddwyd wrth gyflwyno unrhyw ddull i broses e-bost.  Neu lle dych chi y defnyddiwr yn flaenorol wedi prynu oddi wrth neu wedi holi am brynu gan y cwmni gynnyrch neu wasanaeth y mae’r cylchlythyr e-bost yn ymwneud ag e. Dydy hon yn sicr ddim yn restr gyfan o'ch hawliau defnyddwyr mewn perthynas â derbyn deunydd marchnata e-bost. Ni throsglwyddir eich manylion i unrhyw drydydd parti, ac eithrio pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i gael eich cynnwys yn ein dosbarthiad e-bost (gweler Cylchlythyr E-bost isod).

Cylchlythyr E-bost

Mae'r wefan hon yn gweithredu cylchlythyr e-bost, ddefnyddir i hysbysu tanysgrifwyr am gynnyrch a gwasanaethau a gyflenwir gan y wefan hon. Gall defnyddwyr danysgrifio drwy broses awtomataidd ar-lein os ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond yn gwneud hynny yn ôl eu disgresiwn eu hunain. Efallai bydd rhai tanysgrifiadau yn cael eu prosesu â llaw trwy gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gyda'r defnyddiwr.

Dyn ni’n defnyddio MailChimp, gwasanaeth e-bostio trydydd parti, i reoli ein rhestr e-bost ac sy’n ein helpu i gyfathrebu gyda'n haelodau. Pan fyddwch yn tanysgrifio ar gyfer e-bost, bydd eich manylion (enw a chyfeiriad e-bost yn unig) yn cael ei drosglwyddo yn ddiogel i MailChimp a'i storio ganddyn nhw yn unol â'u polisi preifatrwydd. Mae gyda ni Gytundeb Prosesu Data gyda Mailchimp, er mwyn sicrhau, er bod eich data yn cael ei drosglwyddo y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, byddan nhw’n cael eu prosesu yn unol â'r egwyddorion diogelu data a nodir yn y Ddeddf Diogelu Data yn y DU 1998 a chyfraith cyfatebol yr UE.

Gall ymgyrchoedd marchnata e-bost gyhoeddwyd gan y wefan hon neu ei pherchnogion gynnwys cyfleusterau tracio o fewn yr e-bost ei hun. Olrheinir gweithgaredd Subscriber a'i storio mewn cronfa ddata ar gyfer dadansoddi a gwerthuso yn y dyfodol. Gall gweithgarwch olrhain o’r fath gynnwys: agor negeseuon e-bost, anfon ymlaen negeseuon e-bost, clicio dolenni o fewn cynnwys yr e-bost, amserau, dyddiadau ac amlder y gweithgaredd [dydy hyn yn sicr ddim yn restr gynhwysfawr]. Defnyddir y wybodaeth hon i fireinio ymgyrchoedd e-bost yn y dyfodol a chyflenwi’r defnyddwyr gyda chynnwys mwy perthnasol yn seiliedig ar eu gweithgaredd.

Cymerir tanysgrifiadau yn unol â Deddfau Sbam UK a nodir yn y Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003. Cedwir pob manylion personol yn ymwneud â thanysgrifiadau yn ddiogel ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Ac eithrio eich enw a'ch cyfeiriad e-bost, os dych chi wedi rhoi caniatâd i ni, ni throsglwyddir unrhyw fanylion personol i drydydd parti na’u  rhannu gyda chwmnïau/pobl y tu allan i'r cwmni sy'n gweithredu’r wefan hon. O dan y Ddeddf Diogelu Data 1998, gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch chi drwy raglen cylchlythyr e-bost y wefan hon. Os hoffech gael copi o'r wybodaeth gedwir amdanoch ysgrifennwch at y cyfeiriad busnes ar waelod y polisi hwn.

Yn unol â Deddfau Spam y DU a'r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003 rhoddir cyfle i danysgrifwyr ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy sustem awtomataidd. Manylir ar y broses hon yn nhroednodyn pob ymgyrch e-bost.

Cysylltiadau Allanol

Er bod y wefan hon yn unig yn edrych i gynnwys ansawdd, dolenni allanol diogel a pherthnasol,dylai defnyddwyr bob amser fabwysiadu polisi o bwyllo cyn clicio unrhyw gysylltiadau gwe allanol grybwyllwyd trwy gydol y wefan hon.

Ni all perchnogion y wefan hon warantu neu wirio cynnwys unrhyw wefan gysylltiedig allanol ar waethaf eu hymdrechion gorau. Felly, dylai defnyddwyr nodi eu bod yn clicio ar ddolenni allanol ar eu risg eu hunain ac ni ellir dal ei pherchnogion yn atebol am unrhyw ddifrod neu oblygiadau  achosir drwy ymweld ag unrhyw ddolenni allanol grybwyllwyd.

Llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r cyfathrebu, yr ymgysylltu a’r gweithredoedd wneir drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol allanol, y mae’r wefan hon a'i pherchnogion yn rhan ohonyn nhw, yn unol â thelerau ac amodau, yn ogystal â'r polisïau preifatrwydd sydd gyda phob llwyfan cyfryngau cymdeithasol yn eu tro.

Cynghorir defnyddwyr i ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ddoeth a chyfathrebu/ymgysylltu arnyn nhw gyda gofal dyledus a phwyll o ran eu preifatrwydd eu hunain a manylion personol. Fydd  y wefan hon na’i pherchnogion byth yn gofyn am wybodaeth bersonol neu sensitif drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac annog defnyddwyr sydd am drafod y manylion sensitif i gysylltu â nhw trwy sianeli cyfathrebu sylfaenol fel dros y ffôn neu e-bost.

Gall y wefan hon defnyddio botymau rhannu cymdeithasol sy'n helpu rhannu cynnwys y we yn uniongyrchol o dudalennau gwe i’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol o dan sylw. Cynghorir defnyddwyr cyn defnyddio’r fath botymau rhannu cymdeithasol wneud hynny yn ôl eu disgresiwn eu hunain a nodi y gall y llwyfan cyfryngau cymdeithasol olrhain a chadw eich cais i rannu tudalen we yn eu tro drwy eich cyfrif llwyfan cyfryngau cymdeithasol.

Cysylltiadau byrrach yn y Cyfryngau Cymdeithasol

Gall y wefan hon a'i pherchenogion trwy eu cyfrifon llwyfan cyfryngau cymdeithasol rannu dolenni gwe i dudalennau gwe perthnasol. Yn ddiofyn mae rhai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn byrhau'r urls hir [cyfeiriadau gwe] (dyma enghraifft: http://bit.ly/zyVUBo).

Cynghorir defnyddwyr i gymryd pwyll a phenderfyniad doeth cyn clicio unrhyw urls byrrach a gyhoeddir ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol drwy’r wefan hon a'i pherchnogion. Er gwaethaf yr ymdrechion gorau i sicrhau mai dim ond urls dilys a gyhoeddir mae llawer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn dueddol o fod yn agored i spam a hacio ac felly ni all y wefan hon a'i pherchnogion fod yn atebol am unrhyw ddifrod neu oblygiadau achosir drwy ymweld ag unrhyw gysylltiadau byrrach.

Dychwelyd i’r top ↑

Eich manylion am fwy

Peidiwch colli dim byd – rhowch eich manylion  i dderbyn ein Cylchlythyr a chadw i fyny gyda'r holl newyddion diweddara, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy.

* ofynnol

Menu