Achlysuron Wedi Angladd

Img 5988

Achlysuron Wedi Angladd

Mae Cwrt Insole yn gallu darparu ar gyfer achlysuron felly, i deuluoedd os oes eisiau.

Mae nifer o ystafelloedd ar gael yn y Plasdy a hefyd yn Iard y Stablau sydd yn addas.

Ar y safle mae’r Caffi Potio sy’n gallu cynnig lluniaeth arbennig ar gyfer eich gwesteion. Rydym hefyd yn gweithio gyda chwmni “E J Catering” a fydd yn barod i ddarparu bwydlen bwrpasol yn ôl eich anghenion.

Mae hi hefyd yn bosib i chi ddod â’ch prydiau oer eich hunan os oes gwell gennych.


Bydd ein staff ni wrth law, hefyd, wrth gwrs, am gost ychwanegol, i helpu gyda’ r achlysur.

Am wybodaeth pellach, neu i drafod eich trefniadau, cewch ebostio ni at [email protected]

Rydym hefyd yn hapus i gwrdd â chi yn bersonol er mwyn trafod eich anghenion.

D.S. Yn anffodus ni ellir cynnig gwasanaeth angladdol ar y safle.

Dychwelyd i’r top ↑

Eich manylion am fwy

Peidiwch colli dim byd – rhowch eich manylion  i dderbyn ein Cylchlythyr a chadw i fyny gyda'r holl newyddion diweddara, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy.

* ofynnol

Menu