Priodasau

Fel lleoliad priodas trwyddedig, rydym yn gallu cynnig profiad priodas agos i gyplau sy'n chwilio am leoliad sy'n gyforiog o hanes Cymru a'r ceinder oesol.
Gan fod ein plasty a'n gerddi gothig Fictoraidd ar agor bob dydd i'r cyhoedd eu mwynhau, gyda'n harddangosfa newydd ar y llawr cyntaf, rydym yn gallu cynnal nifer cyfyngedig o briodasau bob blwyddyn, gydag uchafswm capasiti o 90 yn ystod y dydd a 150 gyda'r nos.
Rydym yn hapus i allu gweithio'n agos gyda chyplau i greu pecynnau pwrpasol ar gyfer priodasau llai neu rywbeth gwahanol. Os oes diddordeb gyda chi mewn creu trefniant mwy unigryw ar gyfer eich diwrnod priodas, cysylltwch â ni a gallwn drafod eich syniadau gyda'n gilydd.
Gan na fyddai unrhyw briodas yn gyflawn heb wledd berffaith o ryw fath, rydym wedi dewis gweithio gyda The Humble Onion a Bwyty Alium , sy'n enwog yn y diwydiant, i roi bwydlen blasus a phwrpasol i chi, i'ch canmol am eich diwrnod arbennig.
Mae plasty Insole Court ar agor 7 diwrnod yr wythnos, felly mae croeso i chi ymweld unrhyw bryd i edrych o gwmpas y tŷ a'r gerddi.
Os hoffech i Insole Court gynnal eich diwrnod mawr, i archebu taith o amgylch yr ystafelloedd yn y tŷ neu i gael rhagor o wybodaeth am ein pecynnau priodas, anfonwch e-bost at ein rheolwr archebion yn [email protected]