Cylch deithiau Cwrt Insole

Mh0 0377

Cynigir amrywiaeth o gylchdeithiau tywys o gwmpas Cwrt Insole, lle ceir ymwelwyr y cyfle i gael gael dealltwriaeth fwy manwl o’r tŷ a’i hanes gyfoethog.

1 Taith Treftadaeth Dywys Gyffredinol.

Darperir ein taith ragarweiniol gan wirfoddolwyr prosiect gwybodaeth, gan gynnwys cymaint o ystafelloedd ar y llawr gwaelod ag sy’n bosib, hefyd y Llyfrgell ar y llawr cyntaf (gofynnwch am fanylion wrth drefnu eich taith), O fis Mehefin 2018 bydd tocynnau ar gael ar gyfer y Cyflwyniad Sain o’r Dderbynfa yn y tŷ. Amser :- 45 - 60 munud Pris:- £50 am grŵp hyd at 10 mewn nifer.

(Sylwer : ni chynhwysir yr ystafelloedd sydd yn y cyflwyniad sain ar y daith dywys.)

2 Taith “Pensaernïaeth” gan Dr E. Davey – Ymddiriedwr

Taith arbennig ar gyfer pobl sydd yn diddori mewn dylunio a hanes pensaernïol. Ymwelir â chymaint o ystafelloedd ar y llawr cyntaf a fydd ar gael yn ogystal â’r Llyfrgell. Amser: 45 – 60 munud Pris: £50 - am hyd at 18 person.

3 Sgwrs gan John Prior Morris am Fred Insole (cynulleidfa’n eistedd)

Ein perfformiad dramatig! Yma, gwelir Fred Insole yn y cyflwyniad difyr hwn yn olrhain hanes ei deulu, gan adlewyrchu Cynnydd Fictoraidd a Chwymp Edwardaidd. Amser: 45 – 60 munud Pris: £75 - grŵp hyd at 60 person

4 Mike Stratham yn siarad am Alabaster Penarth (cynulleidfa’n eistedd)

Sgwrs “ddarluniedig” sy’n cyflwyno defnydd alabaster Prydeinig, a welwyd gyntaf ym Mhenarth yn y ddeunawfed ganrif.

Amser: 45 – 60 munud Pris: £75 - grŵp hyd at 60 person


Ar hyn o bryd, does ddim modd cynnal y teithiau uchod trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn y dyfodol agos byddwn ni’n cynnig teithiau o gwmpas gerddi Cwrt Insole.

Gweler ein gwefan am fanylion.

I ymholi am archebu daith, cysylltwch â:

Rhif Ffon: 02921 167920 Ebost: [email protected]

*Nodwch fod nifer o ystafelloedd yn Nghwrt Insole yn cael eu llogi ac felly mae’n bosibl na fydd gennym argaeledd ar eich dyddiad arfaethedig. Byddwch mor hyblyg â phosibl a gwnawn ein gorau i ddiwallu'ch anghenion.

Unwaith i ni gwirio’n argaeledd, mi wnewn ni ymateb i gadarnhau’ch atcheb eich archeb.

Dychwelyd i’r top ↑

Eich manylion am fwy

Peidiwch colli dim byd – rhowch eich manylion  i dderbyn ein Cylchlythyr a chadw i fyny gyda'r holl newyddion diweddara, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy.

* ofynnol

Menu